CLOSE
Mae Parc Busnes Llanelwy yn safle modern o bwysigrwydd rhanbarthol, sy’n gartref i wyddoniaeth arloesol, peirianneg a sectorau gwasanaeth, creadigol ac ynni. Mae’r Parc Busnes yn nodedig am ei arbenigaeth o’r radd flaenaf mewn optoelectroneg, sy’n cynnwys Canolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr, busnes tirnod, canolbwynt arloesi a thechnoleg.
Wedi ei leoli yn Sir Ddinbych, yng nghalon Gogledd Cymru, ac oddi ar Ffordd Ddeuol yr A55 ar Gyffordd 26, mae’r Parc Busnes yn cynnig llety defnydd cymysg o ansawdd mewn 90 erw wedi ei dirlunio’n hyfryd a gyda digon o le ar gyfer parcio.
Mae’r Parc Busnes yn gartref i dros 70 o gwmnïau a sefydliadau sy’n manteisio ar yr awyrgylch weithio wych a gefnogir gan boblogaeth ranbarthol o 800,000 a llu o ganolfannau addysg a hyfforddi.