Ar y Parc

Safle deniadol gyda seilwaith a llety cyfoes o safon uchel

CLOSE

Mae Parc Busnes Llanelwy yn amgylchedd deniadol, dwysedd isel, wedi ei dirlunio, gydag isadeiledd o ansawdd uchel, gan gynnwys mynediad i fand eang ffibr a digon o le parcio.

Ar y safle, fe welwch chi gasgliad o unedau modern sy’n addas ar gyfer swyddfeydd, gwaith ymchwil a datblygu a diwydiant – o ystafelloedd rhannu desgiau i 30,000 metr sgwâr o unedau diwydiannol.

Mae Canolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr yn cynnig man tyfu busnes, cyfleusterau cynadledda, ystafell gyfarfod a bwyty.

Mae yna hefyd dir addas i’w ddatblygu at ddefnydd B1.