CLOSE
Mae Parc Busnes Llanelwy yn Sir Ddinbych. Mae gan Sir Ddinbych boblogaeth o dros 95,000 o bobl.
Mae agosrwydd Parc Busnes Llanelwy at yr A55 yn darparu cysylltiad gwych i ogledd-orllewin Cymru, yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy – ac felly Caergybi sy’n cynnig mynediad at farchnadoedd Gwyddelig. Tua’r dwyrain ar yr A55 fe gewch chi gysylltiad uniongyrchol i ogledd-orllewin Lloegr, yn cynnwys ardaloedd economaidd mawr Caer, Manceinion a Lerpwl. Mae’r Parc Busnes yn lle delfrydol i fanteisio ar fasnach a llafur yr holl ardaloedd yma.
Mae gogledd Cymru yn cynnig cydbwysedd rhagorol rhwng gwaith a bywyd gyda’i leoliadau gwledig a threfol. Mae’r Parc Busnes yn agos at Barc Cenedlaethol Eryri ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn ogystal â llu o atyniadau, siopau a chyfleusterau hamdden.