CLOSE
Mae Parc Busnes Llanelwy yn amgylchedd deniadol, dwysedd isel, wedi ei dirlunio, gydag isadeiledd o ansawdd uchel, gan gynnwys mynediad i fand eang ffibr a digon o le parcio.
Ar y safle, fe welwch chi gasgliad o unedau modern sy’n addas ar gyfer swyddfeydd, gwaith ymchwil a datblygu a diwydiant – o ystafelloedd rhannu desgiau i 30,000 metr sgwâr o unedau diwydiannol.
Mae Canolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr yn cynnig man tyfu busnes, cyfleusterau cynadledda, ystafell gyfarfod a bwyty.
Mae yna hefyd dir addas i’w ddatblygu at ddefnydd B1.